Helena Blavatsky

Helena Blavatsky
GanwydЕлена Петровна Ган Edit this on Wikidata
31 Gorffennaf 1831 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Dnipro Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ebrill 1891 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, ocwltydd, golygydd, theosophydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Secret Doctrine Edit this on Wikidata
TadPeter Hahn Edit this on Wikidata
MamElena Andreyevna Fadeyeva Edit this on Wikidata
Gwobr/auSubba Row Medal Edit this on Wikidata

Awdures o Ymerodraeth Rwsia ac Unol Daleithiau America oedd Helena Blavatsky (neu Helena Petrovna Blavatsky; 31 Gorffennaf 1831 - 26 Ebrill 1891) a oedd yn athronydd, newyddiadurwr ac ocwltydd. Fe'i ganed yn Dnipro, 4ydd dinas fwyaf Yr Wcráin a bu farw yn Llundain o'r ffliw.[1][2][3][4][5]

Yn 1875 cyd-sefydlodd y Gymdeithas Theosoffi (the Theosophical Society) yn Ninas Efrog Newydd. Roedd ganddi ddilynwyr ledled y byd, ac adnabyddwyd hi fel prif arweinydd y grefydd esoterig Theosoffi haniaethol, yn ei chyfnod.

Fe'i ganed i deulu aristocrataidd Rwsia-Almaenig yn Yekaterinoslav (Dnipro heddiw), a oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, teithiodd Blavatsky yn eang o amgylch yr Ymerodraeth Rwsia fel plentyn. Yn hunan-addysgiadol yn bennaf, datblygodd ddiddordeb mewn esoteriaeth Gorllewinol yn ystod ei harddegau. Honodd, yn ddiweddarach, iddi fynd ar gyfres o deithiau yn 1849 lle'r ymwelodd ag Ewrop, America, ac India, gan honni iddi ddod ar draws grŵp o bobl ysbrydol, "Meistr yr Hen Ddoethineb" yn Shigatse, Tibet, lle buont yn ei hyfforddi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o synthesis crefydd, athroniaeth a gwyddoniaeth. Mae beirniaid cyfoes a rhai bywgraffwyr diweddarach wedi dadlau bod rhai (neu bob un) o'r ymweliadau tramor hyn yn ffug, a'i bod wedi treulio'r cyfnod hwn yn Ewrop. [6][7]

Erbyn dechrau'r 1870au, roedd Blavatsky yn ymwneud â'r mudiad Ysbrydolrwydd (Spiritualism). Er ei bod yn amddiffyn bodolaeth ffenomenau Ysbrydolrwydd, dadleuodd yn erbyn y syniad fel prif ffrwd, mai ysbrydion y meirw oedd yr endidau y cysylltwyd â hwy. Ymfudodd i'r i Unol Daleithiau America yn 1873, a daeth yn gyfaill i Henry Steel Olcott a daeth i lygad y cyhoedd fel cyfryngydd i ysbrydion, sylw a oedd yn cynnwys cyhuddo rhai pob o dwyll.

Yn 1877 cyhoeddodd Isis Unveiled, llyfr a oedd yn amlinellu ei barn ar theosoffi.

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.orgview_html.php?sq=Google&lang=cy&q=Woman_of_the_Century/Helene_Petrovna_Blavatsky. https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103 https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Gorffennaf 2024.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Jelena Petrovna Blavatskij". "Helena Blavatsky". https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
  5. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11892330s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  7. Anrhydeddau: "Subba Row Medal".

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy